Amgueddfeydd i dorri 90 o swyddi ac adeilad Caerdydd dan fygythiad

Fe fydd amgueddfeydd cenedlaethol Cymru yn diddymu 90 o swyddi yn dilyn toriad yn y gyllideb.

Mae’n bosib fydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd hefyd yn cau oherwydd cyflwr yr adeilad meddai Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru Jane Richardson.

Dywedodd Ms Richardson wrth raglen BBC Radio Wales Sunday Supplement fod tasg ”hynod anodd” i ddelio gyda gostyngiad o £4.5 miliwn yng nghyllideb y corff sy’n gyfrifol am saith safle o gwmpas Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru yn gynharach eleni fod yn rhaid gwneud “penderfyniadau hynod anodd” oherwydd toriadau yn eu cyllid.

Dywedodd Ms Richardson fod yna broblem “enfawr’ gyda chyflwr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a bod Cyngor Caerdydd eisoes wedi cau’r adeilad drws nesaf.

Ychwanegodd: “Pan mae dŵr yn dod trwyddo a’r trydan yn methu mae yna gwestiwn dros ddyfodol yr adeilad beth bynnag.

“Rydym mor bositif a gallwn fod am hyn ond fe fydd yn rhaid edrych ble arall fedrwn gael presenoldeb yng Nghaerdydd."

Fel rhan o ymdrechion i godi incwm a lleihau costau fe fydd amgueddfeydd yn codi tâl ar ymwelwyr am ddigwyddiadau arbennig a chau’r drysau ynghynt yn y gaeaf.

Ychwanegodd Ms Richardson fod y corff wedi derbyn gostyngiad o £3 miliwn mewn cymhorthdal ond oherwydd diffyg parhaol o £1.5 miliwn y flwyddyn mae ganddyn nhw gyfanswm o ddiffyg o £4.5 miliwn.

Mae nhw’n chwilio am ddiddymu o leiaf 90 swydd ond gall y ffigwr yma godi, meddai.