YouTube
by
dinosaurdragon1234
Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd
Wrthrych teilwng o'm holl fryd:
Er o ran yr wy'n adnabod
Ef uwchlaw gwrthrychau'r byd:
Henffych fore,
Caf ei weled fel y mae.
Rhosyn Saron yw ei enw,
Gwyn a gwridog, teg o bryd;
Ar ddeng mil y mae'n rhagori
O wrthrychau penna'r byd:
Ffrind pechadur,
Ef fy mheilot ar y môr, (ar lan y môr)
Ef fy mheilot ar y môr.
Beth sydd imi mwy a wnelwyf
Ag eilunod gwael y llawr?
Tystio'r wyf nad yw eu cwmni
I'w gystadlu a'm Iesu mawr:
O! am aros
Yn ei gariad ddyddiau f'oes.
"Guide me, O Thou great Jehovah"
"Lead me home, Thou great Jehovah"
Byddaf aros yn ei gariad ddyddiau f'oes,
fy oes!
Wel, mae hynny'n mor dda a bydd.
To start learning, sign up for free.
Get started