Gadewch i mi daflu rhifau tuag atoch chi.
Ddwedwn ni 6,000 neu 7,000.
Neu efallai, 8,324.
Neu beth am ddweud 20...
..ac yna beth am daflu canran fach draw, 50% efallai?
A beth amdanyn nhw? Y rhifau hyn?
Mae pob un yn dweud rhywbeth wrthym ni am y gynneddf honno...
..sy'n dod ag unigolion at ei gilydd i ffurfio grwpiau...
..grwpiau i ffurfio cymdogaethau...
..a chymdogaethau i ffurfio pobl - ein ffurfio ni.
Oherwydd, rhifau yw'r rhain sy'n dweud rhywbeth wrthym ni...
..am iaith ac ieithoedd.
Maen nhw'n dweud rhywbeth am nifer yr ieithoedd...
..sy'n cael eu siarad yn y byd.
Ac oes, mae elfen o ansicrwydd, y neus a'r efallais...
..oherwydd dydyn ni ddim yn gwybod i sicrwydd sawl iaith sydd gyda ni...
..yn yr hen fyd 'ma.
Dim mwy nag y gallwn ni fod yn sicr ynghylch faint o adar a blodau...
..o goed ac anifeiliaid yr ry'n ni'n rhannu'r blaned hon â nhw.
Mae'r chwaraewyr mawr yn ddigon hawdd i'w cyfri.
Mae'n haws eu gweld a'u clywed hwythau.
Ac ry'n ni'n weddol siŵr bod tua hanner poblogaeth y byd...
..dyna'r 50% daflais i...
..yn siarad tua 20 o'r holl ieithoedd byw.
Ry'n ni'n gwybod bod cydnabyddiaeth ar lefel deddfau...
..a chyfansoddiadau gwladwriaethol i tua 1,412 o ieithoedd.
Ond yr ieithoedd mewn perygl, yr 'endangered languages'.
Rheiny yw'r rhai sy'n anos eu cyfrif.
A dyna lle mae'r rhifau'n amrywio - weithiau o fil neu fwy...
..6,000, 7,000, 8,000, hyd yn oed.
Ac yna, beth am gategori'r perygl?
Bregus - Vulnerable.
Mewn perygl sicr - Definitely endangered.
Ar wely angau - Critical.
Wedi darfod - Extinct.
Mae'r ieithoedd hyn, y rhai mewn perygl...
..yn union fel y pethau byw eraill hynny, fel y cwtiad aur...
..neu degeirian pêr y gors: aderyn a blodyn a welir...
..dim ond jyst yng Nghymru, fel mae'n digwydd.
To start learning, sign up for free.