🎵 Cerddoriaeth 🎵
O, c’mon! Rwyt ti jyst wedi bwrw fi dros y bont, achan!
Ha! Mas o’r ffordd! Rwyt ti’n rhy araf, ‘myn!
Gawn ni weld am hynny... dw i jyst tu ôl i ti eto!
...yup, bomb ar y ffordd!
Naaaaa!
Reit. Lap olaf!
Bron ‘na!
Doh, dw i mas!
Wedi cwympo bant eto.
Bron ‘na!
Naaa!
Mae Crispin wedi blue-bombio fi!
Crispin!
Methu credu fe!
Reit ar y funud olaf hefyd!
Gentlemen, it’s been a pleasure, but I have a lecture in ten.
See you at supper.
Ie, roedd hynny’n hwyl.
Pwy sy’n coginio heno?
Mared heno, os dw i’n cofio’n iawn.
Mae hi eisiau bwyta’n gynnar,
mae hoci trials gyda hi wedyn.
Bwyd yn barod!
Pasta pesto. Eto.
Be’ dach chi’n feddwl?
Mae o’n boeth,
mae’n weddol iach ac mae’n rhad!
Does ‘na ddim llawer o bres ar ôl yn y ‘kitty’.
Faint o arian sy gyda ni?
Tua saith punt, o be’ dw i’n cofio.
Faint ddylen ni dalu mewn i’r kitty, tro hyn?
Deg punt?
Neu be’ am ugain punt?
Dach chi ddim eisiau byw ar pasta pesto bob dydd,
mae’n amlwg!
Wel hanner ffordd rhwng deg ac ugain yw pymtheg;
beth am dalu pymtheg punt yr un?
So bydd pawb yn talu un deg pum punt?
Byddan. Pawb yn cytuno?
To start learning, sign up for free.