🎵 Cerddoriaeth 🎵
Sut wyt ti’n teimlo nawr?
Ddim yn grêt, a deud y gwir,
ond mi fydda i’n iawn ar ôl cael tabledi.
Ble mae fe’n rhoi dolur?
Fy mys i a gwaelod fy nghoes chwith i.
O ie, mae dy law di wedi chwyddo.
Do,
a fy nghoes i hefyd.
Diolch am gario fi, Elis!
Dw i ddim yn gwybod be faswn i wedi wneud heb dy help di
Lle mae Crispin?
Bydd rhaid i fi ddiolch iddo fo hefyd.
Yn gwrando ar ei gerddoriaeth yn ei gar e, siŵr o fod.
Neu yn tecstio Rhys!
Mae hynny’n bosib hefyd
– mae’r ddau’n dod ‘mlaen yn dda iawn.
Ydyn.
Ac yn y siop wythnos diwethaf,
dwedodd Lili rywbeth fel
‘Bydd Rhys yn dy garu di am byth’,
fel jôc,
ac oedd e mor embarrassed.
O bechod. Mae o mor swil!
Oedd Lili’n teimlo mor wael.
Sôn am Lili...
🎵
Llais tanoi: Mared Ifans i weld Dr Haf Griffiths yn ystafell saith,
os gwelwch yn dda.
Mared Ifans to see Dr Haf Griffiths in room seven, please.
Pizza pepperoni, pizza margherita a garlic bread.
Garlic bara?
Bara garlleg.
Www, bara garlleg, lyfli!
Sut mae dy goes di, Mared?
Dal yn boenus ar hyn o bryd.
Dw i isio paracetamol.
Oes paracetamol gyda ti?
Nac oes ond mae ‘na botel o fodca yn fy nghwpwrdd.
Wnei di nôl hi i fi?
To start learning, sign up for free.