Taliesin

Taliesin wyf fi

Perffaith fy ngherdd i

Canaf hyd ddydd y farn

Fi yw Taliesin

Rwy’n deall dirgelion

Pam bod buwch yn gorniog a dynes yn chwannog

Pam bod halen yn hallt a barf ar fyn gafr

Pam bod llaeth yn wyn a’r egroes yn goch

Pam bo’r hydd yn frith

Pam bod cen ar bysgodyn

Pam bod alarch yn wyn er bod ganddo draed du

Rwy’n gwybod pam

Pam bod nos yn disgyn a’r haul yn codi

A’r ser yn troi trwy rewynt am byth

Lle mae cwcw'r haf yn byw yn y gaeaf

Pa fwystfilod sy’n byw dan eigion y môr

Sawl gwaywffon sydd mewn brwydr

Sawl diferyn mewn cawod

Pam y boddwyd pobl yr Aifft dan y don

Taliesin wyf fi

Rwy’n gwybod y cyfan; profais y cyfan

Bûm ar bob ffurf

Bûm yn gi, yn hydd, yn iwrch ar y mynydd

Yn gyff, yn rhaw, yn fwyell mewn llaw

Bûm yn ebill mewn gefail am flwyddyn a hanner

Bûm yn geiliog brithwyn yn sengu ar ieir

Bûm yn ronyn o ŷd ar ochr y mynydd

Cyn i ddyn dod a'm fedi

Disgynnais i’r llawr, daeth iâr heibio a’m bwyta

Bûm naw diwrnod a noswaith yn dwym yn ei chro'

Bûm yn ddyn ac yn dduw

Bûm farw; bûm fyw

Taliesin wyf fi

Perffaith fy ngherdd i

Byw bydd fy awen hyd ddiwedd y byd.

To start learning, sign up for free.