Y Pethau Bychain

Mae’n dywydd gwamal, Dewi,

Mae’r byd yn araf boethi,

I ble’r af innau rhag y glaw

Pan ddaw hi’n amser boddi?

Ni wn a fydd yfory

Ai glaw ai hindda’n twnnu,

Ond does dim drwg mewn llenwi myrdd

O fagiau gwyrdd ailgylchu.

Mae’r iaith yn marw, Dewi,

Be’ wna’ i rhag ei threngi?

Er pob rhyw ddeddf neu ddadl, wir,

Fe gollodd dir eleni.

Mesurau iaith y gwleidydd

Heb sgwrs a chlonc a dderfydd,

Rhaid ei harfer i’w hadfer hi,

Siarada di hi beunydd.

Ond Dewi, mae mor dywyll

Ym myd y gwalch a’r cudyll,

Pa iws rhoi coel ar obaith ’to

Tra bo rhyfeloedd erchyll?

Er dued y gorwelion

Mae haul ar eu hymylon,

Does dim i’w ennill o din-droi

A chnoi ar wae’n ddigalon.

Tra’r tyle, tra’r golomen,

Tra’r genedl a’r genhinen,

Cedwch yn daer o ddydd i ddydd

Eich ffydd, a byddwch lawen.

To start learning, sign up for free.