YouTube
by
dinosaurdragon1234
Dwyt ti'm yn cofio Macsen,
Does neb yn ei nabod o.
Mae mil a chwe chant o flynyddoedd
Yn amser rhy hir i'r co'
Ond aeth Magnus Maximus o Gymru
Yn y flwyddyn tri-chant-wyth-tri,
A'n gadael yn genedl gyfan
A heddiw: wele ni!
Ry'n ni yma o hyd,
Er gwaetha pawb a phopeth,
Ry'n ni yma o hyd.
Chwythed y gwynt o'r Dwyrain,
Rhued y storm o'r môr,
Hollted y mellt yr wybren
A gwaedded y daran encôr,
Llifed dagrau'r gwangalon
A llyfed y taeog y llawr
Er dued yw'r fagddu o'n cwmpas
Ry'n ni'n barod am doriad y wawr!
Ry'n ni yma o hyd,
Er gwaetha pawb a phopeth,
Ry'n ni yma o hyd.
Cofiwn i Facsen Wledig
Adael ein gwlad yn un darn
A bloeddiwn gerbron y gwledydd
'Byddwn yma hyd Ddydd y Farn!'
Er gwaetha pob Dic Siôn Dafydd,
Er gwaetha 'rhen Fagi a'i chriw
Byddwn yma hyd ddiwedd amser
bydd yr iaith Gymraeg yn fyw!
Ry'n ni yma o hyd,
Er gwaetha pawb a phopeth,
Ry'n ni yma o hyd,
Er gwaetha pawb a phopeth,
Ry'n ni yma o hyd!
To start learning, sign up for free.
Get started